PET(4)-01-12 p1b

 

P-03-221 Gwell triniaeth traed drwy’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol

 

Geiriad y ddeiseb

 

Rydym ni, Fforwm Pobl Hyn dros 50 oed Cwm Cynon, am gyflwyno deiseb yn galw am well triniaeth traed drwy’r GIG, yn enwedig i bobl hŷn sy’n gaeth i’w tai yn ardal Rhondda Cynon Taf.

Llofnodwch ein deiseb.

Cynigwyd gan: Fforwm Pobl Hyn dros 50 oed Cwm Cynon

 

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: Mehefin 2009

 

Nifer y llofnodion: 49

 

Gwybodaeth ategol:

Ysgrifennaf atoch ar ran y sefydliad uchod, y Fforwm Pobl Hŷn dros 50.  Rydym wedi deisebu yn yr ardal i gael gwell gofal traed fforddiadwy;  ar gyfer pobl hŷn a gynrychiolir gan y Fforwm, a phobl sy’n gaeth i’w cartrefi.

 

Amlygodd David Davies, un o’n haelodau, y mater hwn pan sylweddolodd fod y GIG yn cyfeirio at dorri ewinedd y traed ac ati, fel angen cymdeithasol yn hytrach nag fel angen meddygol. Daeth hyn â’r mater i’n sylw ni gan fod pawb ohonom yn talu am wasanaeth o’r fath yn ein cartrefi ein hunain ar hyn o bryd, gan nad yw ar gael yn rhwydd gan y GIG.

 

Ar ôl gwneud ymchwil manwl, rydym wedi darganfod fod rhai Meddygfeydd meddygon teulu’n cynnig gwasanaeth trin traed / podiatreg mewn rhai rhannau o Gymru a hyd yn oed rhai rhannau o sir Rhondda Cynon Taf.  Fodd bynnag, teimlwn, unwaith eto, bod y mater yn loteri cod post, a’i fod yn golygu bod gwasanaeth ar gael i rai pobl ond nid i bobl eraill.

 

Rydym wedi cyfarfod ag Age Concern Cymru sydd wedi argraffu dogfen ar y pwnc: ‘Gall Camau Bach Wneud Gwahaniaeth Mawr’ ac maent yn gwneud gwaith ymchwil i ystyried y mater hwn.  ‘Atal Cwympiadau’ – mae’r strategaeth newydd hon yn ystyried y gall person gwympo os oes ganddo ewinedd traed hir/ croen caled/ ewin sy’n tyfu ar i mewn sydd heb eu trin. Mae gwasanaethau gofal y traed arferol yn ddull syml a rhad o atal problemau ac o osgoi’r angen i gael ymyriadau mewn ysbyty a fyddai’n ddrutach. Er mwyn atal cwympiadau a gwella gofal y traed, dylai rhagor o arian fod ar gael i sefydliadau gwirfoddol, er enghraifft,  y sefydliad ‘Wellbeing Regeneration’ ym Mhorth Tywyn, sy’n fenter gymdeithasol sy’n cynnig gwasanaeth fforddiadwy i bobl hŷn sy’n gaeth i’w cartrefi.

 

Rydym ni, Fforwm Pobl Hŷn Cwm Cynon, yn cyflwyno’r ddeiseb hon, a hoffem i chi fynd i’r afael â mater Gofal Traed – y Loteri Cod Post yng Nghymru.

 

Profwyd dros gyfnod o amser, bod atal problem yn well na’i gwella, felly a oes modd i chi helpu ac atal damweiniau/ afiechydon / cyflyrau yn y dyfodol drwy ymdrechu i ystyried y mater; a yw gwasanaethau gofal traed/podiatreg yn fater gofal meddygol neu ofal cymdeithasol yng Nghymru?

 

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

 

Yn gywir

 

 

Sian Jones

Ar ran Fforwm Cwm Cynon